Rwy’n falch o gyhoeddi fy mod wedi cynnwys cyfieithiadau Cymraeg o fy neunyddiau hyfforddi craidd yn adran Adnoddau fy ngwefan. Dylai hyn gynorthwyo hyfforddwyr Cymraeg eu hiaith i gyflwyno hyfforddiant Atebolrwydd Seiliedig ar Ganlyniadau yn Gymraeg, rhywbeth na allaf ei wneud yn anffodus. Cynhwysir papurau briffio ar gyfer gweithgaredd sylfaenol Troi’r Gromlin (Poblogaeth Gyfan) a chyflwyniad PowerPoint sy’n amlinellu’r dull hwn. Rwyf yn ddiolchgar i Gareth Jones o Ynys Môn am ei gyfieithiadau gofalus o’r gwreiddiol. Fel arfer, croesawir adborth ar y defnydd o’r deunyddiau hyn .